Fferylliaeth: Proffesiwn gofal iechyd claf-ganolog
Mae fferylliaeth yn broffesiwn gofal iechyd sy'n eich hyfforddi i ddod yn fferyllydd - o blith y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mwyaf hygyrch a dibynadwy yn y wlad. Fel fferyllydd, byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol, gan weithio'n uniongyrchol gyda chleifion, meddygon a thimau clinigol i sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu rhagnodi, eu dosbarthu a'u rheoli'n gywir.
Ym Mangor, y claf yw’r canolbwynt. Nid dysgu gwyddor cyffuriau yn unig yw eich gradd, mae'r radd yn ymwneud â datblygu'r farn glinigol, y sgiliau cyfathrebu a'r hyder proffesiynol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl byddwch yn eu gwasanaethu.
Mae graddedigion fferylliaeth yn mynd ymlaen i fod yn fferyllwyr trwyddedig mewn rhai o'r swyddi mwyaf amrywiol a hanfodol ym maes gofal iechyd, gan weithio mewn fferyllfeydd cymunedol, ysbytai, meddygfeydd teulu a'r diwydiant fferyllol. I gofrestru fel fferyllydd, byddwch yn cwblhau cwrs gradd MPharm, blwyddyn hyfforddiant sylfaen ac asesiad cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).
Mae'n broffesiwn diddorol ac mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae eich arbenigedd yn gwella bywydau pobl yn uniongyrchol.
Bydd eich astudiaethau'n cwmpasu taith lawn meddyginiaeth; o sut mae meddyginiaethau'n cael eu darganfod a'u datblygu i sut maent yn cyrraedd cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol. Byddwch yn astudio gweithrediad, cyflenwi a rheoli meddyginiaethau, gyda phwyslais cyson ar yr hyn y mae’n ei olygu i'r claf. Mae ein cwricwlwm wedi ei adeiladu o amgylch heriau go iawn mewn ymarfer fferylliaeth fodern, gan sicrhau eich bod yn graddio nid yn unig yn wybodus, ond yn barod.
Mae dysgu fferylliaeth ym Mangor yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar y claf o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn cael profiad mewn amgylcheddau efelychiedig a lleoliadau go iawn, yn mynd i weithdai, darlithoedd a thiwtorialau, ac yn gweithio trwy amrywiaeth o asesiadau - gan gynnwys Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCEs), gwaith cwrs, arholiadau a phortffolio adfyfyriol. Mae pob asesiad wedi ei gynllunio i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a meddwl beirniadol sy'n diffinio fferyllydd gwych.
Mae'r darlithwyr yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbenigwyr gyda chefndir rhyfeddol ac angerdd am eu pynciau unigol. Mae'r cyfleusterau ym mhrifysgol Bangor ymhlith y gorau a bu'n fraint cael mynediad i'r rhain a gweithio o fewn Canolfan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.
Rwyf wedi mwynhau bod ym Mangor yn fawr iawn ac yn caru awyrgylch y brifysgol. Mae'n brifysgol fach felly rydych chi'n dod i adnabod eich darlithwyr a'ch tiwtor personol ac yn y pen draw rydych chi'n mwynhau mynd i ddarlithoedd a chael yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Nid dim ond myfyriwr coll arall ydych chi - ond rydych chi'n aelod gwerthfawr ac wedi'ch gwthio hyd eithaf eich gallu gyda chefnogaeth anhygoel.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?