Cyfrannodd Dr Iestyn Woolway, sy’n Gymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, at yr astudiaeth, sy'n darparu'r asesiad byd-eang, hirdymor cyntaf o’r cysylltiad rhwng afonydd â'u gorlifdiroedd. Ag yntau wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar trwy gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth go fawreddog, sef Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc, mae cyfraniad Dr Woolway yn tynnu sylw pellach at effaith ryngwladol ei waith.
Aeth yr astudiaeth, a gâi ei harwain gan yr Athro Lian Feng o Brifysgol Wuhan, ati i ddadansoddi bron i bedwar degawd o ddata, o 1984 hyd 2019, ar brosesau hanfodol sy'n dylanwadu ar lifogydd, ecosystemau ac ansawdd dŵr ledled y byd.
Mae'r ymchwil yn datgelu bod mymryn o gynnydd wedi bod yn y cysylltedd dŵr wyneb rhwng afonydd a'u gorlifdiroedd ar raddfa fyd-eang dros y 40 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol o tua 3%.
Fodd bynnag, mae'r duedd fyd-eang hon yn cuddio gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol.
Y prif ganfyddiadau
Un o'r canfyddiadau allweddol yw bod tua 17% o afonydd yn dangos cynnydd cyson mewn cysylltedd, sy'n sylweddol uwch na'r 11% sy'n profi dirywiad parhaus. Gwelwyd y cynnydd mwyaf nodedig yn nwyrain Asia ac mewn rhanbarthau lledred uchel, tra bod lleihad cyffredinol wedi’i nodi mewn rhanbarthau sych a lled-sych, gan gynnwys mewn rhannau o ganolbarth Gogledd America, De America, a de Asia.
Newid hinsawdd yw'r prif reswm dros y newidiadau hyn. Mae mwy o law yn helpu afonydd i ymledu a dod i gyswllt â thir cyfagos, tra bod rhagor o anweddiad yn arwain at sychu’r dŵr a lleihau'r cysylltiad hwnnw. Mae gweithgareddau dynol, megis adeiladu argaeau, ffermio a rheoli tir, hefyd yn cael effaith, ond fel arfer ar raddfa lai ac yn fwy lleol. Gall y camau hyn naill ai helpu neu niweidio cysylltedd afonydd â thir cyfagos, gan ddibynnu ar sut y maent yn cael eu rheoli.
Mae'r astudiaeth hefyd wedi canfod cysylltiad clir rhwng pa mor gysylltiedig yw afonydd â thir cyfagos a faint o waddod y maent yn ei gario. Pan fydd rhagor o gysylltiad rhwng afonydd â'u gorlifdiroedd, maent yn symud ac yn lledaenu mwy o waddod. Mae hyn yn bwysig oherwydd fod hynny’n effeithio ar siâp afonydd, ar sut y mae maetholion yn cael eu dosbarthu, a sut y mae carbon yn symud drwy'r amgylchedd.
Pwysigrwydd yr ymchwil
Mae'r canfyddiadau hyn yn arwyddocaol oherwydd bod cysylltedd dŵr wyneb yn hanfodol i sut y mae afonydd yn gweithredu. Mae'n dylanwadu ar risg llifogydd, iechyd ecosystemau, ansawdd dŵr, a dynameg gwaddodion. Drwy ddarparu'r meincnod arsylwadol byd-eang cyntaf, mae'r ymchwil hwn yn cynnig cipolwg hollbwysig ar sut mae systemau afonydd yn ymateb i newid hinsawdd a phwysau dynol cynyddol.
Disgwylir i'r canfyddiadau lywio dulliau rheoli afonydd, strategaethau cadwraeth a chynlluniau ar gyfer addasu i'r hinsawdd yn y dyfodol ledled y byd.
Mae data lloeren yn dangos bod cysylltiadau rhwng afonydd a'u gorlifdiroedd wedi cynyddu'n fyd-eang dros y pedwar degawd diwethaf, yn bennaf oherwydd newid hinsawdd, gyda chanlyniadau sylweddol i gludiant gwaddodion, ecosystemau a risg llifogydd.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway: “Mae’r ymchwil hwn yn darparu’r darlun byd-eang clir cyntaf o sut mae afonydd a’u gorlifdiroedd yn newid dros amser. Mae'r ffaith bod newid hinsawdd eisoes yn sbarduno newidiadau mesuradwy mewn cysylltedd yn tanlinellu'r brys sydd i ddatblygu dulliau mwy ymaddasol a chynaliadwy o reoli afonydd.